13.03.2024

Achub o Lifogydd yn Abertawe

Ddydd Mawrth, Mawrth 13eg, cafodd criwiau o Orsafoedd Tân Llanelli a Chanol Abertawe eu galw, yn dilyn adroddiadau bod cerbyd yn sownd ar Heol Pont y Cob yn Abertawe – sef ardal sy’n dueddol o gael llifogydd, yn enwedig yn ystod glaw trwm.  Digwyddodd y digwyddiad hwn wrth i lefelau’r afon godi oherwydd glaw trwm parhaus, gan arwain at un cerbyd yn mynd yn sownd yno. 

Gan Rachel Kestin

Danfonwyd cwch y Gwasanaeth o Orsaf Dân Canol Abertawe, yng nghwmni tîm Ymatebwyr Cyntaf Dŵr Math D a Rheolwr Digwyddiad Dŵr Tactegol, eu hanfon i’r lleoliad.  Eu prif bryder oedd diogelwch y rhai yn sownd mewn dŵr a oedd yn parhau i godi.  Ar ôl sefydlu cysylltiad â’r rhai a oedd yn sownd, bu’r criw yn gallu eu tywys i ddiogelwch unwaith roedd lefelau’r dŵr wedi gostwng i lefel fwy diogel. 

Bu fwy o newyddion da tra bod y criwiau yna, wrth iddynt llwyddo i achub ci Labrador a oedd hefyd yn sownd o ganlyniad i’r lefelau dŵr uchel.  Cafodd y ci ei achub gan ddefnyddio sled chwyddadwy. 

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys a’r rhybuddion clir a gyhoeddwyd gan yr awdurdodau lleol, mae’r digwyddiad hwn yn tanlinellu’r risg barhaus a achosir gan anywbyddu rhybuddion llifogydd.  Rydym yn cynghori gwyrwyr i osgoi gyrru trwy ddŵr llifogydd. 

Mae mwy o wybodaeth ar yrru mewn tywydd gwael a llifogydd ar gael yma. 

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf