Mae Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2040 yn rhoi’r pwyslais ar ddull sy’n seiliedig ar ddata er mwyn nodi risgiau a theilwra ein gwasanaethau yn unol â hynny. Trwy ganolbwyntio ar swyddogaethau atal, amddiffyn ac ymateb, ein nod yw lleihau effaith argyfyngau a gwella diogelwch y cyhoedd.
Rydym yn annog pob aelod o'r gymuned i ddod i’r sesiynau galw heibio hyn a chyfrannu at ddatblygu Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2040. Mae eich mewnbwn yn amhrisiadwy i'n helpu i wneud Canolbarth a Gorllewin Cymru yn fwy diogel a chydnerth.
Rydym yn croesawu eich adborth ac yn cynnig y cyfle i chi ennill taleb £100 Amazon! Y cyfan sydd angen i chi wneud yw ymweld ag un o'n sesiynau galw heibio a rhoi gwybod i ni beth yw eich barn drwy gwblhau ein harolwg. Am fwy o wybodaeth am y cynllun neu unrhyw un o'n sesiynau galw heibio, ewch i'n gwefan, neu cysylltwch â'r tîm yn crmp@mawwfire.gov.uk
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ymroddedig i ddiogelu a gwasanaethu cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru. Trwy atal, amddiffyn ac ymateb, rydym yn ymdrechu i sicrhau diogelwch a lles yr holl breswylwyr ac ymwelwyr.