Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn
Does dim swydd arall sy’n debyg i Ddiffodd Tanau, mae’n gyffrous, yn wahanol bob dydd, ac mae’n cynnig boddhad mawr. Cewch deimlo eich bod yn cyfrannu at wasanaeth hanfodol gan ennyn parch eich cymuned leol.
Mae GTACGC yn dibynnu ar Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad, ac mae 75% o orsafoedd y Gwasanaeth yn cael eu criwio gan Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad yn unig. Maen nhw’n ymateb i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys tanau, gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, argyfyngau cemegol, achub anifeiliaid, llifogydd a mwy. Maen nhw hefyd yn chwarae rhan allweddol mewn addysg a diogelwch cymunedol, gan ymweld â chartrefi pobl i wneud archwiliadau Diogel ac Iach.
Mae GTACGC ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ar gyfer pob un o’i Orsafoedd Tân Ar-Alwad.