Yn dilyn eu hantur lwyddiannus i Begwn y De y llynedd, mae dwy Angel Tân yr Antarctig bellach wedi llwyddo i gwblhau 7 marathon ar 7 diwrnod yn olynol yn gwisgo cit diffodd tân llawn a setiau offer anadlu.
Mae Bex a George – a elwir hefyd yn Angylion Tân yr Antarctig (AFA), yn hen gyfarwydd â heriau sy’n torri tir newydd oherwydd yn gynharach eleni fe fu’r ddwy ar antur ryfeddol yn yr Antarctig. Fe gerddon nhw dros 1,200km mewn 52 diwrnod, o arfordir Antarctica i Begwn y De – pellter sy’n cyfateb i 29 marathon. Nhw oedd y bobl gyntaf erioed i gwblhau'r llwybr yr oedden nhw wedi’i ddewis ac roedd eu hantur yn un heb arweiniad na chymorth gan neb arall, a hwythau’n tynnu eu slediau offer a chyflenwadau eu hunain – pob un ohonynt yn pwyso dros 100kg.