Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o brosiectau wedi'u cwblhau ar safleoedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) i ddatblygu mannau gwyrdd i annog bioamrywiaeth, i wella cynaliadwyedd ac i wella llesiant staff.
Mae'r prosiectau mewn Gorsafoedd Tân a safleoedd eraill y Gwasanaeth wedi'u cychwyn a'u datblygu gan griwiau, ochr yn ochr â Rheolwr Cynaliadwyedd y Gwasanaeth. Mae'r prosiectau'n amrywio o erddi bywyd gwyllt, ardaloedd i dyfu ffrwythau a llysiau ffres, yn ogystal â datblygiadau seilwaith gwyrdd. Yn ogystal â gwella ardaloedd a fyddai’n cael eu tanddefnyddio o'r blaen, mae'r prosiectau ardaloedd gwyrdd newydd wedi creu mannau i feithrin ymgysylltiad cymunedol ac i bersonél y Gwasanaeth eu defnyddio i wella eu llesiant. Mae'r prosiectau hyn wedi bod yn bosib gyda chyllid gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a Cadwch Gymru'n Daclus.
Bydd gwaith yn dechrau cyn bo hir ar brosiectau seilwaith gwyrdd ar raddfa fwy mewn dwy Orsaf Dân yn Rhanbarth y De y Gwasanaeth (Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot). Gyda chyllid a chefnogaeth gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Llywodraeth Cymru, bydd y prosiectau'n cynnwys tŷ haf newydd gyda tho gwyrdd, llochesi biniau a siediau beiciau gyda thoeau gwyrdd, yn ogystal ag ardaloedd newydd ar gyfer plannu coed.
Mae'r prosiectau hyn yn garreg filltir arwyddocaol o ran cyflawni rhwymedigaeth y Gwasanaeth o dan Ddyletswydd Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac yn ei ymrwymiad i leihau ei effaith amgylcheddol. Gallwch ddarllen mwy am amcanion amgylcheddol a chynaliadwyedd y Gwasanaeth yma.