Rydym yn falch o gael rhannu ein Hasesiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2023/2024!
Mae’r adroddiad hwn yn amlygu’r cynnydd a wnaed gennym dros y flwyddyn ddiwethaf wrth gyflawni ein dyletswyddau statudol, ac mae’n dangos sut rydym ni’n cyfrannu at gyflawni’r amcanion Llesiant a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae’r Asesiad Perfformiad Blynyddol hefyd yn rhoi darlun clir o’r hyn rydym wedi’i gyflawni ar gyfer ein staff, ein cymunedau a'n rhanddeiliaid. Mae’n myfyrio ar gyflawniad Amcanion Gwella a Llesiant y llynedd, yn dathlu sut rydym wedi llwyddo i wella ein gwasanaethau mewn modd arloesol, ac yn nodi pa feysydd sydd dal angen ein sylw er mwyn i ni ddal ati i ddatblygu.
Os ydych eisiau darllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd a gweld y cynnydd yr ydym ni’n ei wneud, ewch i’n gwefan.