08.08.2024

Atal Tân Ysgubor Mawr yn Llanfair-ym-Muallt

Ddydd Mercher, 24 Gorffennaf, aeth Swyddog Cyswllt Ffermydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Jeremy Turner, i fferm yn Llanfair-ym-Muallt am fod ganddynt nifer fawr o fêls gwair a chanddynt ddarlleniadau tymheredd peryglus o uchel.

Gan Steffan John



Ddydd Mercher, 24 Gorffennaf, aeth Swyddog Cyswllt Ffermydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Jeremy Turner, i fferm yn Llanfair-ym-Muallt am fod ganddynt nifer fawr o fêls gwair a chanddynt ddarlleniadau tymheredd peryglus o uchel.

Ymwelodd Jeremy â’r fferm gyda’i brofwr pentyrrau bêls a chamera delweddu thermol, gan gwrdd â Mr a Mrs Jones ar y fferm deuluol a thrafod nifer y bêls oedd yn cael eu storio ar y pryd a’r amserlen o ran pryd y cafodd y bêls eu creu ac am ba mor hir yr oeddent wedi cael eu storio mewn pentwr.  Yn ystod ymweliad Jeremy, roedd yr arogl melys neu orfelys sy’n gysylltiedig â bêls sy’n gorboethi yn amlwg yn bresennol ar iard y fferm.

Yn ystod archwiliad agosach o’r pentwr bêls, a oedd yn cynnwys tua 60 o fêls gwair sgwâr mawr, gwelwyd arwyddion clir o orboethi megis pantiau yng nghanol y pentwr, rhai bêls yn dechrau dirywio a lleithder o amgylch y bylchau rhwng bêls a oedd yn cynnwys gwlybaniaeth, llwydni a ffwng.  Wrth edrych ar y pentwr drwy'r camera delweddu thermol, nodwyd mannau poeth o amgylch y bylchau yn y bêls gyda thymereddau uwch na 36°C.

Wrth brofi’r bêls gyda stiliwr, canfu Jeremy fod y pentwr mewn perygl difrifol o hylosgi’n ddigymell oherwydd darlleniadau tymheredd rhwng 95 a 100°C – y tymheredd uchaf iddo ei gofnodi erioed.





Penderfynwyd y byddai angen tynnu’r bêls o’r adeilad yr oeddent yn cael eu storio ynddo, ac oherwydd y risg y byddai’r bêls yn fflamio wrth iddynt gael eu symud, ac oherwydd lleoliad anghysbell y fferm, gofynnwyd am ddau dryc tân ac un tanc dŵr i fod ar y safle rhag ofn. Ar ôl i'r cerbydau gyrraedd ac i’r holl offer gael eu gosod yn barod, dechreuodd y ffermwyr dynnu'r bêls o'r ysgubor a'u gosod mewn cae cyfagos o dan oruchwyliaeth aelodau criw GTACGC a oedd yn barod gyda jetiau pibell wedi'u gwefru. Diolch byth, er bod llawer iawn o ager yn codi o'r bêls wrth eu symud, ni wnaeth yr un ohonynt danio.

Ar ôl symud y bêls yn llwyddiannus o’r ysgubor, hysbyswyd Jeremy am fferm gyfagos arall, a oedd yn eiddo i’r un ffermwr, a oedd â phentwr mwy o fêls a oedd wedi’u creu a’u storio tua’r un pryd â’r rhain.  Ar ôl teithio i’r fferm arall a phrofi’r pentwr, mynegwyd pryderon ynghylch y cynnwys lleithder uchel o 80% ac uchafswm y darlleniadau tymheredd sef 97°C – a oedd lawer uwch na’r paramedrau diogel o 35°C neu lai a chynnwys lleithder o 22% neu’n is.  Aeth aelodau'r criw a'r ffermwr yn eu blaenau i ddilyn yr un drefn ag a ddefnyddiwyd ar y fferm gyntaf, lle'r oedd bêls yn cael eu symud o dan oruchwyliaeth diffoddwyr tân â jetiau pibell.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd y Swyddog Cyswllt Ffermydd, Jeremy Turner:

“Nid oes gen i unrhyw amheuaeth, heb ddiwydrwydd y ffermwr a’r camau a gymerwyd wedi hynny, y byddai hyn wedi arwain at ddau dân ysgubor mawr, a fyddai wedi achosi cryn broblem oherwydd eu lleoliad anghysbell, mynediad cyfyngedig a diffyg cyflenwad dŵr ar y safle. Mae GTACGC wedi gweld cynnydd yn nifer y tanau ysgubor ar draws ardal ein Gwasanaeth yn ddiweddar, a hynny fwyaf tebygol o ganlyniad i'r cyfnodau byr o dywydd braf sydd wedi cyfyngu ar y cyfleoedd i gynaeafu gwair pan fo wedi’i sychu'n addas. Mae hyn wedi arwain at ffermwyr yn cynnal ‘cynaeafau brys’ ac rydym yn aml yn gweld y bydd gwair sydd wedi’i storio â chynnwys lleithder uwch yn dangos arwyddion o orboethi rhwng 4 a 6 wythnos ar ôl cael ei bentyrru. Byddwn yn annog pob ffermwr i gadw llygad barcud ar eu bêls, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn, ac i gysylltu â GTACGC i ofyn am wiriad tymheredd bêls AM DDIM os oes ganddynt unrhyw bryderon y gallai eu bêls fod yn gorboethi."

Jeremy Turner - Swyddog Cyswllt Ffermydd




Diogelwch Tân ar Fferm

Mae cyfran fawr o ardal Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gartref i dapestri o gymunedau gwledig ac amaethyddol.  Yn dilyn y digwyddiad hwn, mae GTACGC yn cyhoeddi nodyn atgoffa a chyngor ar ddiogelwch tân fferm i aelodau o’r cymunedau ffermio:

  • Gwasanaeth Profi Tymheredd Bêls AM DDIM
    Mae GTACGC yn falch o gynnig Gwasanaeth Profi Tymheredd Bêls AM DDIM.  Os oes gennych bryderon ynghylch tymheredd eich bêls gwair, cysylltwch â ni i ofyn am wiriad AM DDIM o dymheredd a chynnwys lleithder eich bêls gwair, gan ddefnyddio offer arbenigol.  Yn dibynnu ar y darlleniadau a gawn, byddwn wedyn yn gweithio gyda chi i lunio cynllun i reoli'r risgiau cysylltiedig.   I archebu ymweliad am ddim, ffoniwch to 01268 909408 os gwelwch yn dda (llinell ar agor 24/7).
    Os yw bêls gwair yn mudlosgi neu ar dân ffoniwch 999 ar unwaith.
  • Ni ddylai bêls gwair wedi'u storio gynnwys lleithder sy'n fwy na 22%.
    Mae bêls gwair sydd â chynnwys lleithder o 22% neu uwch yn peri risg o gynyddu mewn gwres ar ôl eu pentyrru, gan arwain at orboethi a hylosgiad digymell o bosibl.
  • Dylai tymheredd y bêls gwair fod yn is na 35°C cyn eu casglu o’r cae i'w storio.
    Gall bêls gwair â thymheredd uwch na 35°C barhau i gynhyrchu eu gwres eu hunain i bwynt lle gall hylosgiad digymell ddigwydd.
  • Cyngor ar Storio Bêls Gwair
    Lle bo modd, dylid lleoli pentyrrau ar wahân, yn ddigon pell o adeiladau fferm eraill, yn enwedig adeiladau da byw. Cadwch bentyrrau i faint rhesymol, ymhell oddi wrth ei gilydd ac yn sych.  Ceisiwch osgoi storio gwrtaith, cemegau, silindrau nwy, tractorau a pheiriannau eraill mewn ysguboriau sy'n cynnwys bêls gwair.  Sicrhewch fod yr holl offer trydanol a gwifrau'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda.
    Os yw bêls gwair yn mudlosgi neu ar dân ffoniwch 999 ar unwaith.
  • Arwyddion o fêls gwair yn gorboethi
    Gall arwyddion o fêls gwair yn gorboethi gynnwys afliwio neu frownio mewn mannau, pentyrrau y gwelir eu bod yn ‘stemio’ yn gynnar yn y bore neu’n hwyr y nos, presenoldeb arogl melys neu orfelys a gwellt yn troi’n ffurf tebyg i dybaco.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf