Ddydd Sul 25 Awst, aeth aelodau o Dîm Diogelwch Ffyrdd GTACGC i ddigwyddiad Cruise Culture yng Nghaerfyrddin.
Cruise Culture yw'r sioe geir sefydlog fwyaf yng Nghymru, ac mae’n digwydd yn flynyddol ar Faes Sioe Caerfyrddin. Mae'r digwyddiad yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.



Ymunodd aelodau o Dîm Diogelwch ar y Ffyrdd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) â GanBwyll a Chyngor Sir Caerfyrddin yn y digwyddiad lle buont yn hyrwyddo pwysigrwydd diogelwch gyrwyr ifanc ar ffyrdd.
Roedd yn wych gweld cymaint o ymgysylltu gan y cyhoedd ar ddiogelwch ar y ffyrdd, Y Pum Angheuol ac Ymgyrch Ugain. Cafwyd llawer o drafodaethau cadarnhaol gyda gyrwyr a'r gymuned leol.
Gyda'n gilydd, gallwn wneud y ffyrdd yn fwy diogel i bawb!