20.03.2024

Chwaraewyr y Gweilch yn newid y cae rygbi am y Cae Tân am ddiwrnod!

Ymunodd aelodau o dîm Rygbi Hŷn y Gweilch â ni yng Nghyfleuster Hyfforddi Earlswood ar gyfer Diwrnod Profiad diffoddwr tân.

Gan Rachel Kestin



Ymunodd aelodau o dîm Rygbi Hŷn y Gweilch â ni yng Nghyfleuster Hyfforddi Earlswood ar gyfer Diwrnod Profiad diffoddwr tân. 

Cysylltodd Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (WRPA) â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ynghylch eu Rhaglen Datblygu Personol (PDP) sy’n helpu chwaraewyr i gael cydbwysedd da o ran chwaraeon/ffordd o fyw yn ystod eu gyrfaoedd, a gan wneud hynny, yn y pen draw, mae'n gwneud y trawsnewidiad o'u gyrfa chwarae broffesiynol ac i gyflogaeth yn y dyfodol mor ddidrafferth â phosibl.

Rhoddodd y profiad 3-awr gyfle i’r chwaraewyr rygbi roi cynnig ar git llawn diffodd tân, profi eu cryfder a’u hystwythder trwy godi ysgolion oedd â phwysau arnyn nhw a chario jetiau pibelli ddŵr a wynebu eu hofnau mewn lle cyfyng wrth wisgo mwgwd dros eu llygaid! Ac yn dilyn hynny, taith o amgylch peiriant tân a sesiwn holi ac ateb gydag arbenigwr hyfforddi’r Gwasanaeth.

Dywedodd Tim Jones, Rheolwr Datblygiad Personol Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru, sydd wedi’i leoli yn rhanbarth rygbi’r Gweilch:

“Rhan o fy rôl yw cefnogi chwaraewyr i ddod o hyd i yrfaoedd posib ar ôl bywyd yn y byd rygbi ac mae Diwrnodau Profiad fel hyn yn gyfle gwych i’r chwaraewyr brofi galwedigaethau eraill. Maen nhw wedi cael blas ar yr hyn y mae rôl diffoddwr tân yn ei olygu, a gall y cyfle hwn eu helpu i benderfynu a yw gyrfa yn y Gwasanaeth Tân ar eu cyfer nhw yn y dyfodol. Rydyn ni gyd yn ddiolchgar i GTACGC am y cyfle hwn, yn enwedig Rob a Mark a wnaeth y diwrnod yn bosibl.”



Roedd y Diwrnod Profiad diffoddwr tân yn gyfle unigryw ac yn agoriad llygad i chwaraewyr y Gweilch, a roddodd bersbectif newydd iddyn nhw ar yr heriau y gallen nhw eu hwynebu mewn gyrfa fel diffoddwr tân.

Mae rhagor o wybodaeth am Ddiwrnodau Profiad GTACGC sy'n agored i bawb ar gael ar ein gwefan.

Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r hyn sydd ei angen i fod yn ddiffoddwr tân Ar Alwad, llenwch y Ffurflen Mynegi Diddordeb i gychwyn eich taith!

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf