Chwilio am yrfa werth chweil? Dewch draw i Ddigwyddiad Recriwtio’r Gwasanaethau ac archwilio cyfleoedd gyda gwasanaethau brys amrywiol a'r lluoedd arfog!
Bydd cynrychiolwyr o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, y Llynges Frenhinol, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, a'r Lluoedd Arfog wrth law i roi cyngor, rhannu eu profiadau, ac ateb eich cwestiynau am yrfaoedd yn eu sefydliadau.
P'un ai ydych chi newydd ddechrau eich gyrfa neu'n ystyried newid, dyma'ch cyfle i gael gwybodaeth ac arweiniad uniongyrchol gan y rhai yn y maes.
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i ddarganfod sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth!
Ewch i'n tudalen Digwyddiad Facebook