21.07.2025

Criw Craidd yn Nodi 30 Mlynedd o Ddysgu Gwersi All Achub Bywydau i Ddisgyblion Castell-nedd Port Talbot

Mae digwyddiad y Criw Craidd eleni yn nodi 30 mlynedd o ddysgu gwersi achub bywydau hanfodol i ddisgyblion ledled Castell-nedd Port Talbot.

Gan Emma Dyer


Criw Craidd yn Nodi 30 Mlynedd o Ddysgu Gwersi All Achub Bywydau i Ddisgyblion Castell-nedd Port Talbot

Mae digwyddiad y Criw Craidd eleni yn nodi 30 mlynedd o ddysgu gwersi achub bywydau hanfodol i ddisgyblion ledled Castell-nedd Port Talbot. Caiff digwyddiad y Criw Craidd ei drefnu’n flynyddol gan Dîm Diogelwch Cymunedol Cyngor Castell-nedd Port Talbot, ac mae wedi dod yn fenter flaenllaw sy’n dysgu gwybodaeth hanfodol am ddiogelwch i’r genhedlaeth nesaf.

Daeth dros 1,500 o ddisgyblion blwyddyn 6 o ysgolion cynradd ledled y sir i’r digwyddiad ym Mharc Gwledig Margam. Dros gyfnod o bythefnos, cymerodd disgyblion ran mewn cyfres o weithdai rhyngweithiol i'w paratoi ar gyfer rhai o’r heriau a'r peryglon y gallant eu hwynebu mewn bywyd bob dydd – gan gynnwys diogelwch personol, ymateb i argyfwng, a deall gwaith gwasanaethau cyhoeddus allweddol.

Mae Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn falch o fod wedi cefnogi’r Criw Craidd o’r cychwyn cyntaf. Mae ein timau wedi cyflwyno sesiynau diogelwch tân gafaelgar i helpu pobl ifanc i ddysgu sut i gadw’n ddiogel gartref ac yn eu cymunedau.



Dywedodd y Cynghorydd Alun Llewelyn, Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac Aelod y Cabinet dros Dai a Diogelwch Cymunedol:

"Mae’r Criw Craidd wedi bod yn un o gonglfeini addysg diogelwch cymunedol yng Nghastell-nedd Port Talbot ers tri degawd bellach, ac rydym yn hynod falch o ddathlu ei ben-blwydd yn 30 eleni... Hoffwn ddiolch i'r holl sefydliadau a roddodd o’u hamser i gyflwyno negeseuon diogelwch mor bwysig i'n pobl ifanc. Mae eu hymroddiad yn sicrhau bod disgyblion yn gadael y digwyddiad â gwell dealltwriaeth o sut i gadw’n ddiogel, sut i wneud penderfyniadau gwybodus, ac o’r gwaith hanfodol a wneir gan ein gwasanaethau brys."



Edrychwn ymlaen at flynyddoedd lawer o bartneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot, wrth i ni barhau i fuddsoddi yn niogelwch a lles ein cenedlaethau nesaf.


Erthygl Flaenorol