Bu’r criw o Orsaf Dân Llanfyllin yn cefnogi Sioe Llanfyllin a’r Cylch ddydd Sadwrn, Awst 10fed.
Mae Sioe Llanfyllin, a gynhelir ym Mharc Bodfach, yn cynnwys amrywiaeth o arddangosfeydd a chyflwyniadau amaethyddol a garddwriaethol.
Daeth Diffoddwyr Tân o Orsaf Dân Llanfyllin i’r sioe gydag amrywiaeth o offer i ddarparu gwybodaeth ddiogelwch ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Nod eu presenoldeb oedd codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch tân, yn enwedig mewn lleoliadau gwledig ac amaethyddol. Gwnaethant gynnig cyngor ymarferol ar atal tanau, dangos offer diogelwch ac ateb unrhyw gwestiynau gan fynychwyr y sioe.
Roeddent hefyd yn gallu cynnig gweithgareddau rhyngweithiol, fel rhoi’r cyfle i blant ac oedolion eistedd mewn injan dân a gwisgo fel Diffoddwr Tân!