15.05.2024

Criw Hwlffordd Yn Croesawu'r Cynghorydd Thomas Tudor

Ddydd Mawrth 7 Mai, ymwelodd y Cynghorydd Thomas Tudor – cyn Gadeirydd Cyngor Sir Penfro – â Gorsaf Hwlffordd, ynghyd â Dirprwy Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, y Cynghorydd John Davies, am daith o amgylch yr orsaf a'u peiriant tân newydd.

Gan Rachel Kestin



Ddydd Mawrth 7 Mai, ymwelodd y Cynghorydd Thomas Tudor – cyn Gadeirydd Cyngor Sir Penfro – â Gorsaf Hwlffordd, ynghyd â Dirprwy Gadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, y Cynghorydd John Davies, am daith o amgylch yr orsaf a'u peiriant tân newydd.

Rhoddodd aelodau'r criw gyflwyniad yn tynnu sylw at yr holl adnoddau sydd gan Orsaf Hwlffordd i'w cynnig i'r gymuned. Roedd y Cynghorydd Tudor yn awyddus i ddysgu popeth am y gwaith pwysig maen nhw'n ei wneud a chael gwell dealltwriaeth o'r heriau maen nhw'n eu hwynebu bob dydd.

Yn dilyn y cyflwyniad cafodd y ddau gynghorydd daith o amgylch y cyfleusterau, a oedd yn cynnwys trafodaethau am y cwch Achub o Ddŵr Cyflym, yr Ysgol Drofwrdd, a'r peiriant tân newydd '31P2' a gyrhaeddodd yr orsaf ym mis Ebrill, gan ddod ag offer ychwanegol/newydd i ddiffoddwyr tân eu defnyddio mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau.

Yn ogystal â'r daith o amgylch yr orsaf cafodd y Cynghorydd Tudor gyfle i brofi uchelfannau’r ysgol drofwrdd! Cafodd offer gwarchod personol llawn ar gyfer diogelwch, ac yna’i gysylltu â harnais, ac aethpwyd ag ef tua 20 medr i'r awyr i weld golygfa ysblennydd o Hwlffordd!

Dywedodd y Rheolwr Gorsaf Nicholas Rees: 

"Roedd yn wych croesawu Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Thomas Tudor, a Dirprwy Gadeirydd yr Awdurdod Tân, y Cynghorydd John Davies, i Orsaf Dân Hwlffordd. Dangosodd y criw ar ddyletswydd y gwahanol beiriannau a galluoedd arbenigol yn yr orsaf megis y peiriant tân newydd, ysgol drofwrdd, a'r uned achub o ddŵr. Rhoddodd y criw gyflwyniad hefyd i'r math o ddigwyddiadau rydym yn eu mynychu, a'r gweithgareddau atal ac amddiffyn a wneir yn y gymuned leol i hyrwyddo diogelwch."



Dywedodd cyn-Gadeirydd Cyngor Sir Penfro, Thomas Tudor:

“Cefais y pleser o gamu ar yr ysgol drofwrdd gyda harnais diogelwch, ac aeth honno â fi cyn uched â phosibl, sef 32 metr. Roedd hynny’n sicr yn un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn.”


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf