01.05.2024

Criwiau yn Cymryd Rhan Mewn Ymarferiad Hyfforddi yn CWM Environmental

Dydd Llun, Ebrill 29, aeth criwiau Caerfyrddin, Cydweli, Llandysul a Llandeilo i ymarferiad hyfforddi chwilio ac achub gydag offer anadlu yn CWM Environmental, Nantycaws.

Gan David Foster



Dydd Llun, Ebrill 29, aeth criwiau Caerfyrddin, Cydweli, Llandysul a Llandeilo i ymarferiad hyfforddi chwilio ac achub gydag offer anadlu yn CWM Environmental, Nantycaws.

Roedd yn rhaid i’r criwiau wynebu adeilad llawn mwg a oedd yn cynnwys swyddfeydd a gweithdy gydag adroddiadau bod nifer o bobl angen eu hachub.  Mae ymarferiadau hyfforddi fel hyn yn efelychu sefyllfaoedd go iawn ac yn caniatáu i ddiffoddwyr tân fagu hyder yn eu gallu i wisgo a defnyddio offer anadlu. 

Mae gwisgo offer anadlu yn ychwanegu pwysau a gall gyfyngu ar y gallu i symud, gan wneud ymarferiadau hyfforddi yn gorfforol feichus.  Mae'r ymarferiadau hyn yn helpu diffoddwyr tân i ddatblygu eu dygnwch, nerth ac ystwythder, sy'n hanfodol i allu cyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol. Roedd cyfle i’r criwiau hefyd wella eu gwaith tîm a'u cydlyniad gan fod angen cyfathrebu ac ymddiriedaeth, sy'n hanfodol i weithrediadau llwyddiannus yn ystod argyfyngau.  Mae offer anadlu yn gyfarpar sy'n caniatáu i berson anadlu mewn amgylchedd gelyniaethus lle byddai anadlu fel arall yn amhosibl, yn niweidiol neu'n beryglus.

Wrth siarad am yr ymarferiad hyfforddi, dywedodd y Rheolwr Gwylfa Iwan Jones:

"Mae'r ymarferiadau hyfforddi hyn yn hynod o bwysig i ddatblygu a mireinio galluoedd chwilio ac achub aelodau’r criw a hoffent ddiolch yn fawr i CWM Environmental am ganiatáu i ni ddefnyddio eu cyfleuster a’u hadeilad, a oedd yn anghyfarwydd i’r criwiau a gymerodd ran.”




“These training exercises are extremely important to develop and refine crew members’ search and rescue capabilities and like to give a big thank you to CWM Environmental Ltd. for allowing us to use their facility and building, which was unfamiliar to the crews taking part.”





Allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?

Mae Caerfyrddin*, Cydweli, Llandysul a Llandeilo yn Orsafoedd Tân Ar Alwad, sy’n golygu bod eu diffoddwyr tân yn cael eu hysbysu am alwad frys trwy ddyfais alw bersonol, y maen nhw’n ei chario gyda nhw pan fyddant ar ddyletswydd.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Dysgwch fwy am sut i fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yma.

*Mae gan Orsaf Dân Caerfyrddin system criwio yn ystod y dydd ac ar alwad.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf