22.09.2025

Criwiau yn Rhoi Sgiliau ar Brawf yn Ystâd Hanesyddol Dinefwr

Yn ddiweddar cymerodd sawl criw o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ran mewn ymarfer hyfforddi deinamig, ym Mharc Dinefwr a Thŷ Newton hanesyddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llandeilo.

Gan Steffan John



Yn ddiweddar cymerodd sawl criw o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ran mewn ymarfer hyfforddi deinamig, ym Mharc Dinefwr a Thŷ Newton hanesyddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llandeilo.

Cynlluniwyd y senario i brofi cynllun tactegol gweithredol GTACGC yn drylwyr, gan ganolbwyntio ar leoli’r pwmp cyfaint uchel o Orsaf Dân Rhydaman. Cafodd y criwiau'r dasg o lywio tir heriol i gyrraedd ffynhonnell ddŵr agored, sef sgil hanfodol mewn gweithrediadau diffodd tân gwledig.  Gan ychwanegu at y cymhlethdod, dangosodd y Tîm Chwilio ac Achub Trefol (USAR) eu galluoedd codi pethau trwm, gan efelychu'r math o gydlynu amlasiantaeth sydd ei angen yn ystod argyfyngau ar raddfa fawr.

Bu’r ymarfer yn dangos hyfedredd technegol a gwaith tîm y criwiau, gan hefyd tynnu sylw at bwysigrwydd addasrwydd mewn amgylcheddau anrhagweladwy.  Ystyriwyd bod y sesiwn yn llwyddiant a bydd yn bwynt cyfeirio gwerthfawr ar gyfer cynllunio ymateb i ddigwyddiadau yn y dyfodol.








Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf