29.07.2024

Croeso i'n Diffoddwyr Tân Ar Alwad Newydd

Ddydd Llun, Gorffennaf 22ain, cwblhawyd wythnosau o hyfforddiant caled a thrylwyr gan ein grŵp diweddaraf o Ddiffoddwyr Tân Ar Alwad yn ein Canolfan Hyfforddi.

Gan Steffan John



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi croesawu 10 Diffoddwr Tân Ar Alwad newydd yn ddiweddar.

Ddydd Llun, Gorffennaf 22ain, llwyddon nhw i gwblhau wythnosau o hyfforddiant caled a thrylwyr yn ein Canolfan Hyfforddi Iarll y Coed.  Byddant nawr yn ymuno â’u Gorsafoedd Tân lleol i helpu i gadw eu cymunedau’n ddiogel – pob lwc yn eich rolau newydd!



A allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Dysgwch fwy am sut i fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yma.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf