Cafodd Wayne Bream hefyd ei enwebu a derbyniodd dystysgrif yng Ngwobrau Atal NFCC 2024 yn y categori, Cydnabod Gwirfoddoli.
Mae’r amser a’r wybodaeth y mae Wayne wedi’u rhannu, boed ar nosweithiau cadetiaid, diwrnodau agored gorsafoedd, digwyddiadau cymunedol, Gemau Cadetiaid Tân y DU, ac yn enwedig gyda chadetiaid cynorthwyol yn ddiweddar yn y Senotaff, Llundain, yn amhrisiadwy.
Mae ymroddiad a gwaith caled Wayne wedi bod o fudd mawr i gadetiaid, y gwasanaeth, a’r cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu, ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar am ei haelioni yn rhannu ei sgiliau a’i amser gyda ni.