Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) am eich cadw chi a’ch anwyliaid yn ddiogel adeg Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni.
Gan weithio mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru, Awdurdodau Lleol ac asiantaethau partner eraill, ein nod yw creu amgylchedd mwy diogel i bawb adeg Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt, gan alluogi cymunedau i ddathlu'n gyfrifol ac yn ddiogel.
Wrth i ni edrych ymlaen at y dathliadau llawn bwganod, tân gwyllt disglair a thanau gwyllt fydd yn ein gwresogi, mae'n bwysig parhau i fod yn ymwybodol o'r risgiau diogelwch tân sy’n gysylltiedig â'r dathliadau hyn. Mae gan GTACGC gyngor diogelwch hanfodol i'r rhai sy'n dymuno dathlu'r ddau achlysur hyn:
Diogelwch Calan Gaeaf:
Er bod Calan Gaeaf yn cynnig cyfle i blant a phobl ifanc wisgo gwisgoedd gwisg ffansi, cerfio pwmpenni, a chynnal teithiau ‘losin neu lanast', mae hefyd yn dod â phryderon ynghylch diogelwch tân. Mae GTACGC wedi tynnu sylw at rai o'r peryglon posibl a'r hyn y gellir ei wneud i leihau'r risgiau, er mwyn sicrhau bod y gymuned yn mwynhau Calan Gaeaf yn ddiogel:
- Diogelwch Gwisgoedd: Gwiriwch bob amser am farc 'CE' ar wisgoedd Calan Gaeaf er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni safonau diogelwch. Mae llawer o wisgoedd yn fflamadwy, felly osgowch fflamau agored. A yw eich canhwyllau yn eich peryglu chi a'ch cartref?
- Dewisiadau yn lle Canhwyllau Defnyddiwch ganhwyllau LED heb fflam ar gyfer effaith codi ofn heb y risg o dân. Mae'r rhain yn fwy diogel i blant ac ni fyddant yn chwythu allan yn y gwynt. Os ydych chi'n dewis defnyddio canhwyllau, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu gosod ymhell oddi wrth wrthrychau eraill, a pheidiwch byth â'u gadael heb oruchwyliaeth.
- Goruchwyliaeth: Cadwch lygad barcud ar blant ar bwys canhwyllau ac addurniadau. Osgowch osod eitemau fflamadwy ger allanfeydd neu rodfeydd
- Llwybrau Dianc: Gwnewch yn siŵr fod allanfeydd yn glir rhag ofn y bydd argyfwng - ni ddylai addurniadau byth rwystro llwybrau dianc.
Dywedodd Steven Davies, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: