"Mae Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cyhoeddi ei Gynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRMP) 2040, sydd wedi'i gynllunio er mwyn helpu i gyflawni ein gweledigaeth, sef rhoi'r gwasanaeth gorau posibl i gymunedau canolbarth a gorllewin Cymru.
Er mwyn ein cynorthwyo i gyflawni ein gweledigaeth, rydym wedi adolygu'r risgiau, y bygythiadau a'r heriau yn ein cymunedau ac wedi datblygu cynllun hirdymor hyd at 2040, yr ydym yn hyderus y bydd yn ein helpu i ddeall, rheoli a lleihau'r risgiau hyn, gan gadw cymunedau canolbarth a gorllewin Cymru mor ddiogel â phosibl.
Gan gydnabod anghenion newidiol ein cymunedau, bydd ein cynllun hirdymor yn parhau i fod yn hyblyg, gan ein galluogi i barhau i addasu i newidiadau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd, gan ddiogelu’r gwasanaethau rydym yn eu darparu ar gyfer y dyfodol, trwy gael y bobl iawn yn y lle iawn, ar yr adeg iawn, gyda’r sgiliau a’r offer cywir i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”