24.02.2025

Dathliadau Gwobrau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da

Nos Iau, 20 Chwefror 2025, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) eu Seremoni Gwobrau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da yn y Plough, Rhos-maen ar gyfer Personél y Gwasanaeth, i gydnabod 20, 30 neu 40 mlynedd o wasanaeth.

Gan Rachel Kestin



Nos Iau, 20 Chwefror 2025, cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) eu Seremoni Gwobrau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da yn y Plough, Rhos-maen ar gyfer Personél y Gwasanaeth, i gydnabod 20, 30 neu 40 mlynedd o wasanaeth.

Cyflwynwyd y gwobrau gan y Prif Swyddog Tân Roger Thomas KFSM a Dirprwy Raglaw Dyfed Ei Fawrhydi, Mr Rowland Rees-Evans. Ymhlith y gwesteion ychwanegol roedd y Dirprwy Raglaw Ceri Havard o Bowys, yr Is-Arglwydd Raglaw Mr Martin Trainer o Orllewin Morgannwg, a Dirprwy Gadeirydd Awdurdod Tân CGC, y Cynghorydd John Davies.

Rhannwyd gwobrau’r noson yn grwpiau - Rhanbarth y Gogledd, Rhanbarth y De, Rhanbarth y Gorllewin, a phersonél Pencadlys y Gwasanaeth. Croesawyd pawb i’r llwyfan yn unigol i dderbyn eu gwobr, ynghyd â thystysgrif wedi’i fframio i nodi eu cyflawniad:



Rhanbarth y Gogledd

Croesawodd y Rheolwr Grŵp Stephen Rowlands, Pennaeth Rhanbarth y Gogledd, aelodau o'i Ranbarth i'r llwyfan yn eu tro i dderbyn eu gwobr a'u tystysgrif. Y rhai cyntaf y cyflwynwyd gwobrau iddynt oedd y Rheolwyr Gwylfa Stephen Daniel a Mark Hughes, ill dau yn cael eu gwobr 40 mlynedd. Ac yna’r Diffoddwr Tân Ar Alwad Jason Hockenhull, a dderbyniodd ei wobr 30 mlynedd. Cafodd y Dirprwy Reolwr Rhanbarthol David Latham, y Rheolwyr Gwylfa Tomos Boyle, Liam Hinton-Jones ac Aled Morgan, y Rheolwyr Criw Marty Jones, Meilyr Hughes a Glenn Lewis a'r Diffoddwr Tân Glyn Jones oll eu gwobrau 20 mlynedd.














Rhanbarth y De

Croesawodd y Rheolwr Grŵp David Morgans, Pennaeth Rhanbarth y De, aelodau o'i Ranbarth i'r llwyfan yn eu tro i dderbyn eu gwobrau a'u tystysgrifau. Y person cyntaf y cyflwynwyd gwobr iddo oedd y Diffoddwr Tân Michael Edwards, a gafodd ei wobr 30 mlynedd. Yna daeth y Rheolwyr Gwylfa Spencer Francis, Andrew Vaughan ac Andrew Parker a’r Rheolwyr Criw Jonathan Williams, Lyn Rees a Richard Jones, pob un ohonynt yn cael eu gwobr 20 mlynedd.










Rhanbarth y Gorllewin

Croesawodd y Rheolwr Grŵp Andrew Davies, Pennaeth Rhanbarth y Gorllewin, aelodau o'i Ranbarth i'r llwyfan yn eu tro i gael eu gwobrau a'u tystysgrifau, a’r Diffoddwr Tân William Adrian Windsor oedd yn gyntaf, ac yntau’n cael ei wobr 30 mlynedd. Cafodd y Rheolwyr Gwylfa Lee Hopkins a Daniel Ward, y Diffoddwr Tân Elizabeth Morris a'r Diffoddwyr Tân Gavin Thomas a Stephen Jones oll eu gwobr 20 mlynedd.









Arhosodd Andrew ar y llwyfan i groesawu staff Pencadlys y Gwasanaeth. Y cyntaf i gasglu ei wobr am 30 mlynedd o wasanaeth oedd y Pennaeth Corfforaethol Ymateb Brys Justin Lewis, ac yna’r Pennaeth Corfforaethol Risg Sefydliadol Sean Lloyd, y Rheolwr Gorsaf  Jason Woodman Dirprwy Bennaeth Gweithdrefnau Gweithredol a Dysgu, y Rheolwr Gorsaf Beverley Woodman o’r Ystafell Rheoli Tân ar y Cyd a’r Rheolwr Gwylfa Eifion Rees.

Ac yn olaf, ond yr un mor bwysig, y Rheolwr Gwylfa Abigail Hampton o Offer Gweithredol a Sicrwydd, y Rheolwr Gorsaf Mark Snell o Weithdrefnau Gweithredol a Dysgu, y Rheolwr Gorsaf Daniel Bartley a'r Rheolwr Gorsaf Andrew Morgan Dirprwy Bennaeth Datblygu Pobl, oll yn cael eu gwobr 20 mlynedd, gan ddod â’r noson i’w therfyn.












Dywedodd y Prif Swyddog Tân Roger Thomas:

"Noson o ddathlu yw hon, a chyfle i gydnabod ymroddiad anhygoel cydweithwyr yn y Gwasanaeth am eu holl waith caled a'u blynyddoedd o ymrwymiad i gyrraedd eu cerrig milltir o 20, 30 a 40 mlynedd o wasanaeth. Braint oedd croesawu gwesteion nodedig, cydweithwyr a'u teuluoedd i'r gwobrau eleni. "Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y seremoni, gyda diolch arbennig i'r Plough, Rhos-maen am leoliad ysblennydd."



Roedd y noson yn gyfle arbennig i ddathlu cyflawniadau Gwasanaeth Hir ac Ymddygiad Da gan bersonél y Gwasanaeth, gan ddangos gwerthfawrogiad, teyrngarwch a chydnabyddiaeth i'r ymdrechion hynod, y gwaith caled a'r ymroddiad i'r Gwasanaeth Tân ar hyd y blynyddoedd. Llongyfarchiadau i bawb.

Os hoffech lun, e-bostiwch Linsey Perry ar pressofficer@mawwfire.gov.uk os gwelwch yn dda.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf