Yn ddiweddar, nododd y criw yng Ngorsaf Dân y Drenewydd garreg filltir ryfeddol yn eu hanes, trwy ddathlu 150 mlynedd o’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn y dref.
Ddydd Sadwrn, 6 Ebrill, cafodd digwyddiad dathlu arbennig ei gynnal yn yr Orsaf Dân a ddaeth ag aelodau presennol a chyn-aelodau staff y Gwasanaeth ynghyd, yn ogystal â gwesteion gwadd.
Agorodd Prif Swyddog Tân ac Achub Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, Roger Thomas, y digwyddiad a siaradodd am hanes y Gwasanaeth Tân ac Achub yn y Drenewydd a sut y cafodd ei greu.
Ym mis Ebrill 1874, cafodd Brigâd Dân Wirfoddol y Drenewydd ei chreu, ac mae sawl newid wedi bod i’r strwythur ers hynny. Cafodd Cyd-wasanaeth Tân Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn ei ffurfio yn 1948 ar ôl i’r Gwasanaeth Tân Cenedlaethol drosglwyddo rheolaeth tân i wasanaethau sirol a bwrdeistrefi sirol rhanbarthol. Ym 1974, aeth pob un o'r Cynghorau Sir a oedd newydd gael eu sefydlu ati i gynnal eu Gwasanaethau Tân ac Achub eu hunain ac ym 1996 cafodd Brigadau Tân Dyfed, Powys a Gorllewin Morgannwg eu huno gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 i greu Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae adegau a digwyddiadau o bwys yn hanes Gwasanaeth Tân ac Achub y Drenewydd yn cynnwys tân trychinebus ym Melin y Cambrian ym 1912, dyfodiad ei injan dân stêm gyntaf ym 1913, y seiren oedd yn rhybuddio diffoddwyr tân o ddigwyddiad yn cael ei disodli gan declynnau rhybuddio poced ym 1971 a thân mawr yn Nhanerdy’r Drenewydd ym 1981.
Nid oes amheuaeth bod y Gwasanaeth Tân ac Achub yn y Drenewydd wedi gweld newid aruthrol drwy gydol ei hanes, o geirt yn cael eu tynnu gan geffylau i’r peiriannau tân a’r offer achub bywyd diweddaraf oll. Drwy gydol ei hanes, mae'r holl ddiffoddwyr tân yng Ngorsaf Dân y Drenewydd wedi dangos ymroddiad, dewrder a gwasanaeth i'r gymuned leol, ac yn ddi-os maent wedi achub bywydau di-ri.
Wrth ddathlu 150 mlynedd, rydym nid yn unig yn cofio a dathlu’r gorffennol, ond hefyd yn cadarnhau unwaith eto ymrwymiad y Gwasanaeth Tân ac Achub i gymuned y Drenewydd i’r dyfodol.