03.02.2025

Dementia Hwb yn Dathlu 3 Blynedd ers Agor

Yr wythnos diwethaf, bu Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Maer a Maeres Abertawe, ynghyd ag Ymddiriedolwyr Dementia HWB, yn dathlu 3 blynedd ers yr agoriad.

Gan Lily Evans


Yr wythnos diwethaf, bu Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Maer a Maeres Abertawe, ynghyd ag Ymddiriedolwyr Dementia HWB, yn dathlu 3 blynedd ers yr agoriad. Bu Dementia HWB Aberafan hefyd yn dathlu blwyddyn ers iddynt agor.


Mae Dementia Friendly Swansea yn elusen sy'n cynnig gobaith i bobl a theuluoedd y mae dementia yn effeithio arnynt. Mae'n lle sy'n groesawgar a chefnogol ac yn rhywle sy’n deall y clefyd a'i effeithiau.

Fel Gwasanaeth rydym yn cydnabod bod angen cymorth ychwanegol ar rai pobl - gan gynnwys pobl hŷn a phobl â dementia. Mae diogelwch tân yn y cartref yn fater pwysig i bawb ac yn enwedig i bobl sy'n byw gyda dementia. Dyma pam ei bod yn gymaint o fraint i aelodau ein Tîm Diogelwch Tân Cymunedol a'r Orsaf Dân leol fod yn bresennol ar gyfer y dathliadau.

Nod Hwb Dementia yw darparu gwasanaeth galw heibio lle gall pobl gael gwybodaeth am ddementia yn ogystal â'r gwasanaethau a'r cymorth lleol sydd ar gael iddynt.



“Mae ein gwiriadau Diogel ac Iach yn hanfodol i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt er mwyn eu cadw’n byw’n ddiogel yn eu cartrefi. Mae'n hanfodol bod y gwasanaethau tân yn gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau fel yr Hwb Dementia - rydym yn gweld y bobl fwyaf agored i niwed allan yn y gymuned ac mae'n wych cael adnodd fel yr Hwb dementia y gallwn eu cyfeirio ato am gefnogaeth ac yn yr un modd iddynt hwy gyfeirio pobl atom ninnau, ar gyfer gwiriad diogel ac iach ."

Jay Crouch - Arweinydd Diogelu



Ar gyfartaledd, mae tua 200 o bobl yn defnyddio'r Hwb bob mis i gael cyngor, cefnogaeth, neu rywun i siarad â nhw. Mae ganddynt hefyd fynediad at wasanaeth gofalwyr Hafan Ddiogel sydd yno i gynorthwyo unrhyw un â dementia a allai gael ei lethu ar ymweliad â’r dref ac sydd angen lle tawel i ymlonyddu.

Fel Gwasanaeth rydym wedi cefnogi'r Hwb gyda Diwrnod Rhoi’n Ôl o'r blaen – gan baentio ystafell gefn yr Hafan Ddiogel yn Hwb Abertawe. Treuliodd ein Tîm Diogelwch Tân Busnes o Ranbarth y De ddiwrnod yn paentio’r Hafan Ddiogel fel rhan o ymarfer adeiladu tîm.



Rydym yn annog pobl i alw heibio i un o'r Hybiau Dementia a dweud helo wrth y tîm sydd yno i gefnogi pobl a theuluoedd y mae dementia yn effeithio arnynt.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf