Mae Rhys Fitzgerald, sef Diffoddwr Tân Ar Alwad o Orsaf Dân Cydweli, wedi cyrraedd copa Ama Dablam.
I baratoi ar gyfer dringo i gopa Mynydd Everest y flwyddyn nesaf, mae Rhys yn cymryd rhan mewn sawl dringfa a her, gan gynnwys dringo’r 6,812 metr i gopa Ama Dablam, a leolir yn nwyrain mynyddoedd yr Himalaya yn Nepal.
Llongyfarchiadau, Rhys!
Mae Rhys yn ymgymryd â’r her hon i helpu i hyrwyddo’r manteision y gall treulio amser yn yr awyr agored eu cael ar eich iechyd a’ch lles meddyliol a chorfforol, yn ogystal â chodi arian i dri achos teilwng a chodi ymwybyddiaeth ohonynt. Mae Rhys wedi dewis cefnogi’r elusennau canlynol:
- Elusen y Diffoddwyr Tân - elusen sy'n darparu cymorth gydol oes i ddiffoddwyr tân sy’n gwasanaethu ac sydd wedi ymddeol, ac i’w teuluoedd.
- Mind - sy'n darparu gwybodaeth, cefnogaeth ac ymgyrchoedd i bobl â phroblemau iechyd meddwl.
- The Nimsdai Foundation – sy'n gweithio i glirio sbwriel sy’n cael ei adael ar fynyddoedd yn yr Himalaya yn sgil teithiau blaenorol yn ogystal â chefnogi arwyr tawel y mynyddoedd, sef Porthorion Llwybr Base Camp Everest.
Darllenwch fwy ar daith Rhys a sut mae'n paratoi amdano yma.