Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hyfforddi Earlswood y Gwasanaeth, yn gyfle i ddathlu ac i fyfyrio ar lwyddiannau anhygoel y 12 unigolyn - sy’n cael eu hadnabod gyda’i gilydd fel Carfan 01/24 - sydd wedi cwblhau eu cwrs trosi diffoddwyr tân Ar Alwad i ddiffoddwyr tân Amser Cyflawn yn ddiweddar, a hynny yng nghwmni eu teuluoedd a’u ffrindiau.
Yn dilyn proses recriwtio helaeth lle cyflawnwyd amrywiaeth o heriau fel rhan o broses ddethol drylwyr, dechreuodd Carfan 01/24 ar eu cwrs preswyl wyth wythnos ar 25 Ionawr. Ers hynny, mae pob un ohonynt wedi datblygu’r sgiliau a’r galluoedd cychwynnol sydd eu hangen i gyflawni eu rolau newydd fel Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn.