Ddydd Iau, Gorffennaf 25ain, cynhaliwyd Seremoni Raddio a Gorymdaith i nodi Cwblhau’r Cwrs Hyfforddi gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ar gyfer y garfan ddiweddaraf o Ddiffoddwyr Tân Amser Cyflawn.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hyfforddi Iarll y Coed y Gwasanaeth, yn gyfle i ddathlu ac i fyfyrio ar lwyddiannau anhygoel y 12 unigolyn - sy’n cael eu hadnabod gyda’i gilydd fel Carfan 02/24 - sydd wedi cwblhau eu cwrs hyfforddi Diffoddwr Tân Amser Cyflawn 14 wythnos o hyd yn ddiweddar, a hynny yng nghwmni eu teuluoedd a’u ffrindiau.
Yn dilyn proses recriwtio helaeth lle cyflawnwyd amrywiaeth o heriau fel rhan o broses ddethol drylwyr, dechreuodd Carfan 02/24 ar eu cwrs preswyl 14 wythnos ar Ebrill 17eg. Ers hynny, mae pob un ohonynt wedi datblygu'r sgiliau a'r galluoedd cychwynnol sydd eu hangen i gyflawni eu rolau newydd fel Diffoddwyr Tân Amser Cyflawn.
Maen nhw wedi cael eu hyfforddi ar sut i ymateb i amrywiaeth o argyfyngau mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, fel achub o ddŵr, gweithio ar uchder, diogelu'r amgylchedd a mwy. Maen nhw hefyd wedi gweithio’n agos gyda Thimau Diogelwch Cymunedol a Diogelwch Tân i Fusnesau’r Gwasanaeth i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymhellach ym maes atal tanau, gan eu galluogi i integreiddio’n llwyr yn ein Gorsafoedd Tân Cymunedol.
Roedd y Seremoni’n cynnwys Gorymdaith y Recriwtiaid, pan ymunodd Gosgordd Faneri Seremonïol y Gwasanaeth â nhw, ac Archwiliad o’r Recriwtiaid gan y Prif Swyddog Tân Roger Thomas, Cadeirydd Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, y Cynghorydd Gwynfor Thomas a’r Rheolwr Gwylfa ac Hyfforddwr, Phil O’Shea. Yna cynhaliwyd nifer o Arddangosfeydd Iard Ymarfer i ddangos y sgiliau ymateb brys y mae pob aelod o'r Garfan wedi'u datblygu yn ystod eu hyfforddiant, ac yn dilyn hynny cyflwynwyd y Tystysgrifau a’r Gwobrau*.
Yn ogystal â theulu a ffrindiau pob recriwt, roedd y Prif Swyddog Tân Thomas, y Dirprwy Brif Swyddog Tân Iwan Cray, Cadeirydd yr Awdurdod Tân y Cynghorydd Gwynfor Thomas, Dirprwy Gadeirydd yr Awdurdod Tân y Cynghorydd John Davies, ynghyd â sawl aelod o Dîm Arweinyddiaeth Weithredol y Gwasanaeth, hefyd yn bresennol.