31.07.2025

Diffoddwyr Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru yn disgleirio yn Her Diffoddwyr Tân Prydain 2025

Ymgasglodd diffoddwyr tân o bob cwr o'r byd yn Watford ar 26 a 27 Gorffennaf ar gyfer Her Diffoddwyr Tân Prydain 2025 - digwyddiad chwaraeon blynyddol sy'n gwthio diffoddwyr tân hyd eithaf eu gallu corfforol a meddyliol, yn diddanu gwylwyr, ac yn codi arian hanfodol ar gyfer elusennau sy'n cefnogi gwasanaethau brys.

Gan Rachel Kestin



Ymgasglodd diffoddwyr tân o bob cwr o'r byd yn Watford ar 26 a 27 Gorffennaf ar gyfer Her Diffoddwyr Tân Prydain 2025 - digwyddiad chwaraeon blynyddol sy'n gwthio diffoddwyr tân hyd eithaf eu gallu corfforol a meddyliol, yn diddanu gwylwyr, ac yn codi arian hanfodol ar gyfer elusennau sy'n cefnogi gwasanaethau brys.

Gan gynrychioli Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ymgymerodd ein tîm Her Diffoddwyr Tân - Dominic Norcross, Tim Frost, Morgan Lewis, Luke Fisher, Lee Rees, Haydn Ralph, James Sheen, a James Johnson â’r cwrs 8 cam dychrynllyd gyda phenderfyniad, dygnwch ac ysbryd tîm. Dangosodd holl aelodau'r tîm ffitrwydd, sgil a phenderfyniad eithriadol ein diffoddwyr tân ar draws digwyddiadau unigol a thîm.

Profodd y cwrs bob agwedd ar ffitrwydd yr ochr weithredol, gan gynnwys tynnu pibelli dŵr, dringo grisiau mewn cit llawn, achub pobl wedi’u hanafu, a mwy! A hyn oll o dan bwysau cystadleuaeth a gwres yr haf. Nid yn unig y llwyddodd ein tîm i gyflawni’r her ond hefyd bu rhai canlyniadau gwych:

Daeth James Sheen yn drydydd yn ei gategori oedran, sy’n dyst i'w gryfder a'i ddygnwch.

Daeth y tîm ras gyfnewid, oedd yn cynnwys Lee Rees, Haydn Ralph, James Sheen, a James Johnson yn drydydd yn Ras Gyfnewid Prydain i Ddynion, gan ddangos gwaith tîm a chydlynu rhagorol.

Daeth James S, Tim Frost a James J yn ail yng nghategori Cyflymaf Gyffredinol Gwasanaeth Tân Prydain, cyflawniad rhyfeddol sy'n tynnu sylw at y lefel elitaidd o ffitrwydd a pherfformiad o fewn y tîm.

Daeth holl aelodau'r tîm yn uchel ar y bwrdd arweinwyr cyffredinol, gyda sawl amser eithriadol o gyflym wnaeth dynnu sylw ac ennill parch ac edmygedd eang cyd-gystadleuwyr a threfnwyr digwyddiadau fel ei gilydd. Gwnaeth perfformiad y tîm greu argraff barhaol, gyda llawer o gystadleuwyr yn canmol eu cyflymder, eu cryfder ac am ddangos chwarae teg.

Dywedodd Dominic Norcorss:

"Roedd yn anrhydedd cystadlu ochr yn ochr â grŵp mor ymroddedig ac ysbrydoledig o ddiffoddwyr tân. Roedd y digwyddiad yn anodd, ond roedd y cyfeillgarwch a'r gefnogaeth gan bawb a gymerodd ran yn ei wneud yn brofiad bythgofiadwy. Rydym yn falch ein bod wedi cynrychioli ein Gwasanaeth ac wedi codi ymwybyddiaeth am achos mor bwysig."



Diolch yn fawr i bawb a gefnogodd y tîm, o gydweithwyr a theuluoedd i'r gymuned ehangach. Gadewch i ni barhau i ddathlu'r cryfder, y gwydnwch a'r undod sy'n diffinio ein gwasanaeth tân.

  

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf