Ddydd Llun, Hydref 20fed, cymerodd criwiau o Orsafoedd Tân Cei Newydd ac Aberaeron Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ran mewn ymarfer hyfforddi a oedd yn efelychu amrywiaeth o senarios gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd.
Yn ystod yr ymarfer, roedd y criwiau’n wynebu senarios heriol i ddelio â nhw, a oedd yn gofyn iddynt ddefnyddio amrywiaeth o offer fel winshis, bagiau awyr ac offer e-draulic. Roedd criwiau hefyd yn gallu ymarfer a mireinio eu sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu, gwneud penderfyniadau a chydlynu strategol.
Mae ymarferion o'r fath yn hanfodol er mwyn cynnal parodrwydd gweithredol a sicrhau bod Diffoddwyr Tân yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i ymateb yn effeithiol i argyfyngau sy'n gysylltiedig â gwrthdrawiadau ar y ffyrdd, er mwyn diogelu cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru.