Ddydd Gwener, 2 Awst, cefnogodd Diffoddwyr Tân gwirfoddol Gorsaf Dân y Borth Garnifal blynyddol y Borth.
Cynhelir y carnifal yn flynyddol ar ddydd Gwener cyntaf mis Awst, ac mae'n dod â chymuned y Borth ynghyd, yn ogystal ag ymwelwyr haf y pentref glan môr. Roedd digwyddiadau'r diwrnod yn cynnwys gorymdaith o gerddwyr mewn gwisg ffansi ac mewn cerbydau carnifal drwy'r pentref, gyda chartrefi a busnesau wedi'u haddurno'n lliwgar.
Ymunodd y criw gwirfoddol o Orsaf Dân y Borth ag ystod o sefydliadau eraill yng ngorymdaith y carnifal ac i gefnogi digwyddiadau'r diwrnod.