Ddydd Sadwrn, 28 Mawrth 2026, bydd dau Ddiffoddwr Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cymryd rhan yn The Great Tommy Sleep Out.
Ar 28 Mawrth, bydd y Rheolwr Gorsaf Paul Armes a’r Rheolwr Criw Simon Church o Ranbarth y Gogledd, sy'n cynnwys Powys a Cheredigion, yn treulio’r nos yng nghanol tref y Drenewydd fel rhan o'r ymgyrch genedlaethol.
The Great Tommy Sleep Out yw prif ymgyrch codi arian y Royal British Veterans Enterprise. Bob mis Mawrth, mae unigolion a grwpiau yn ildio noson neu ddwy o gysur er mwyn gwella ymwybyddiaeth a chasglu arian hanfodol i gyn-filwyr sy'n wynebu digartrefedd. Mae miloedd o gyn-bersonél y gwasanaethau yn wynebu digartrefedd, ac mae'r ymgyrch yn helpu i ddarparu cartrefi diogel, cymorth iechyd meddwl a llwybr yn ôl at annibyniaeth i gyn-filwyr.