15.08.2024

Diffoddwyr Tân yn Cymryd Rhan Mewn Hyfforddiant Adeiladau Uchel ym Mae Abertawe

Ddydd Gwener, 9 Awst cymerodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Port Talbot, Llanelli, Gorllewin Abertawe a Threforys ran mewn Ymarfer Hyfforddiant Adeiladau Uchel ar Gampws Bae Abertawe, Prifysgol Abertawe.

Gan Steffan John



Ddydd Gwener, 9 Awst cymerodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Port Talbot, Llanelli, Gorllewin Abertawe a Threforys ran mewn Ymarfer Hyfforddiant Adeiladau Uchel ar Gampws Bae Abertawe, Prifysgol Abertawe.

Fel rhan o'r ymarfer, cymerodd diffoddwyr tân ran mewn hyfforddiant trylwyr i ymarfer gweithdrefnau achub adeiladau uchel cymharol newydd a oedd yn cynnwys tân ffug ar bumed llawr adeilad, gydag adroddiadau bod pobl y tu mewn.

Cafodd criwiau’r dasg o lywio’u ffordd drwy gynllun cymhleth, a oedd yn cynnwys grisiau a choridorau, o dan amodau tân a mwg ffug.  Roedd y diffoddwyr tân yn ymarfer sgiliau hanfodol fel chwilio ac achub, technegau awyru a defnyddio pibellau adeiladau uchel, i gyd wrth wisgo dillad amddiffynnol llawn.

Roedd yr ymarfer yn pwysleisio gwaith tîm, cyfathrebu a gwneud penderfyniadau cyflym mewn amgylchedd heriol, gan sicrhau bod criwiau wedi'u paratoi'n dda i ymateb i argyfyngau go iawn mewn adeiladau aml-lawr.  Mae'r ymarfer hwn yn rhan o raglen o ddigwyddiadau hyfforddi a gynlluniwyd dros yr wythnosau nesaf, a fydd yn gwella parodrwydd aelodau'r criw wrth ymateb i ddigwyddiadau mewn lleoliadau trefol.  O dirweddau gwledig i ganolfannau trefol, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn darparu gwasanaeth ymateb brys i bron i ddwy ran o dair o Gymru, sy'n cynnwys Abertawe, yr ail ddinas fwyaf poblog yng Nghymru.







Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf