Yn hwyr ym mis Hydref, cymerodd personél Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) sy’n rhan o Dîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru (USAR) ran mewn ymarfer hyfforddi amlasiantaeth ar raddfa fawr a oedd yn efelychu damwain awyren ym Maes Awyr Southampton.
Ymunodd Diffoddwyr Tân GTACGC â chriwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Hampshire ac Ynys Wyth (GTAHYW), yn ogystal ag ymatebwyr brys o Wasanaeth Ambiwlans De Canolog, Gwasanaeth Tân Maes Awyr Southampton, Heddlu Hampshire ac Ynys Wyth ac Uned Rheoli Digwyddiadau GTAHYW. Bu’r ymarfer yn efelychu awyren a oedd wedi cwympo ar faes parcio, gan arwain at nifer o gleifion a cherbydau yn cael eu heffeithio ac felly digwyddiad heriol i bob asiantaeth.
Fel rhan o’r ymarfer, roedd aelodau’r Tîm USAR yn rhan o’r gwaith o ddiogelu safle’r ddamwain a chwilio am gleifion. Yn cynnwys personél o GTACGC a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, a gyda chefnogaeth personél Cydnerthedd Cenedlaethol Cymru, mae Tîm USAR Cymru yn gallu ymateb i gefnogi criwiau gweithredol mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau.