Ddydd Gwener, 6 Medi, cymerodd 12 aelod o staff Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran yn Her Tri Chopa Cymru, sy'n golygu cyrraedd copaon Pen y Fan, yr Wyddfa a Chader Idris o fewn 24 awr.
Mae'r her yn gyfanswm pellter cerdded o 17 milltir ac esgyniad o 2,334 metr, a chymerodd personél GTACGC ran i godi arian ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân ac Elusennau Iechyd Hywel Dda.
Wrth iddynt gymryd rhan mewn her anodd, dangosodd dau aelod o'r tîm - y Rheolwr Grŵp Phil Morris a'r Diffoddwr Tân Ar Alwad Darren Davies - ddewrder ac ymrwymiad eithriadol i ddiogelwch, trwy gario person oedd wedi'i anafu am dros dair milltir.
Wrth ddod i lawr yr Wyddfa, daeth y tîm ar draws Jack Smith a'i ffrindiau. Roedd Jack wedi anafu ei droed wrth ddringo'r mynydd ac ni allai roi unrhyw bwysau arni. Gyda thair milltir o leiaf yn weddill nes iddynt gyrraedd gwaelod yr Wyddfa, a'r risg y byddai Jack a'i ffrindiau yn sownd yn y tywyllwch, penderfynodd Phil a Darren y byddent yn ei gario oddi ar y mynydd.
I ddechrau, fe wnaethon nhw geisio cario Jack mewn bag tunnell roedden nhw wedi'i ddarganfod ar y mynydd, ond daeth yn amlwg yn fuan y byddai'r tir creigiog yn golygu bod hyn yn anymarferol. Felly, penderfynodd y ddau ohonynt gymryd eu tro i gario Jack ar eu cefnau i waelod y mynydd, gan gyrraedd man diogel yn y pen draw.
Llwyddodd Phil a Darren i ddefnyddio eu blynyddoedd o hyfforddiant tân ac achub a’u hymroddiad i ddiogelwch y cyhoedd i gynorthwyo Jack i ddod i lawr yr Wyddfa ac i fan diogel. Da iawn Phil a Darren!
Mae'r tîm yn dal i gasglu arian ar eu tudalen JustGiving a bydd unrhyw gyfraniad yn cael ei werthfawrogi'n fawr.