Am 9.15yh ddydd Mercher, Ebrill 24ain, cafodd criwiau Abercraf, Treforys a Phontardawe eu galw i ddigwyddiad ar Fynydd Gelliwastad, Clydach.
Ymatebodd y criwiau i dân gwyllt a wnaeth ddinistrio tua phedwar hectar o wair. Ar anterth y digwyddiad, roedd blaen y tân tua 150 metr o hyd. Defnyddiodd y criwiau chwythwr, curwyr a phaciau tanau gwyllt i ddiffodd y tân. Gwnaeth y criwiau parhau i wirio am fannau poeth cyn gadael am 11.29yh. Credir dechreuwyd y tân yn fwriadol.
#DoethIDanauGwyllt
Mae Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru yn eich annog i fod yn ymwybodol o beryglon tanau gwyllt dros dymhorau’r gwanwyn a'r haf #doethidanaugwyllt.
Gyda’r tymhorau ar dro, a’r addewid o dywydd braf ar y gorwel, dyma adeg dda i fwynhau gweithgareddau yn yr awyr iach, i drefnu gwyliau, i wersylla gyda’r teulu, ac i fwynhau eich ardal leol.
Er hyn, daw’r Haf â’i beryglon hefyd, oni fyddwch chi’n dilyn canllawiau diogelwch ymarferol a chywir sy’n addas i’r adeg hon o’r flwyddyn. Trwy wneud rhai paratoadau syml a chymryd ychydig mwy o ofal gallwch gadw’ch hun, eich teulu, eich cymunedau a’r amgylchedd yn ddiogel.
Yn yr haf, gall glaswelltir a mynyddoedd fod yn sych iawn, sy’n golygu y gall tân sydd wedi’i gynnau y tu allan ledaenu yn gyflym iawn, gan ddinistrio popeth sydd ar ei lwybr.
Cewch fwy o wybodaeth yma.