04.03.2025

Digwyddiad: Achub Caiacwr yn Y Clas-ar-Wy

Ddydd Iau, Chwefror 27ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberhonddu a Llanfair-ym-Muallt eu galw i ddigwyddiad ar yr Afon Gwy yn Y Clas-ar-Wy.

Gan Steffan John



Am 1.34yp, ddydd Iau, Chwefror 27ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberhonddu a Llanfair-ym-Muallt eu galw i ddigwyddiad ar yr Afon Gwy yn Y Clas-ar-Wy.

Gyda chefnogaeth criwiau o Wasanaethau Tân ac Achub De Cymru a Henffordd a Chaerwrangon, ymatebodd y criwiau i un claf a oedd mewn trafferth ar ôl caiacio ar yr afon.  Roedd y claf mewn trafferth yn ddyfroedd gwyllt yr afon, gan achosi i’w caiac droi drosodd.  Llwyddodd y claf i ffonio 999 tra ei bod yn sownd.

Oherwydd bod y claf wedi arnofio tua 1.5 milltir i lawr yr afon, bu’n her i’r criwiau i ddod o hyd i’r claf.  Gyda chymorth y Tîm Achub Mynydd a hofrennydd Heddlu Dyfed-Powys, daethpwyd o hyd i’r claf.  Roedd y claf wedi gadael y dŵr ac ar arglawdd, ond nid oedd yn gallu dringo allan oherwydd ymylon serth yr arglawdd.

Fe wnaeth personél y Gwasanaeth Tân ac Achub asesu’r claf a’i achub gan ddefnyddio ysgolion.  Gadawodd y criwiau am 3.09yp.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf