15.07.2024

Digwyddiad: Achub Ceffyl yn Aberhonddu

Ddydd Sul, 14 Gorffennaf, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Aberhonddu a'r Tîm Achub Anifeiliaid o Orsaf Dân Pontardawe eu galw i ddigwyddiad yn Libanus, Aberhonddu.

Gan Steffan John



Am 12yp ddydd Sul, 14 Gorffennaf, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Aberhonddu a'r Tîm Achub Anifeiliaid o Orsaf Dân Pontardawe eu galw i ddigwyddiad yn Libanus, Aberhonddu.

Yn dilyn adroddiadau bod ceffyl yn sownd mewn darn corsiog o gae, ymatebodd criwiau i geffyl 20 oed oedd yn mesur tua 17 dyrnfedd ac a oedd yn sownd mewn tua 4 troedfedd o fwd.

Lluniodd y Tîm Achub Anifeiliaid a chriw Aberhonddu gynllun achub, ac aethant ati gyda’i gilydd i ryddhau'r ceffyl yn llwyddiannus.  Un o'r prif anawsterau i'w goresgyn yn ystod y gwaith achub oedd y ffaith bod un o goesau ôl y ceffyl wedi cael ei sugno'n ddwfn i’r gors ac roedd y ceffyl wedi blino'n lân ar ôl ceisio ei ryddhau ei hun.  Llwyddodd y criwiau i achub y ceffyl trwy ddefnyddio cynfasau achub, un mat llithro, strapiau a rhawiau.  Rhoddwyd y ceffyl yng ngofal ei berchennog a'r milfeddygon a oedd hefyd yn bresennol.  Gadawodd y criwiau’r safle am 2.10pm.

Ar hyn o bryd mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Dimau Achub Anifeiliaid arbenigol sydd wedi'u lleoli yng Ngorsafoedd Tân Pontardawe, Caerfyrddin, Machynlleth a Rhaeadr Gwy, ac maent yn defnyddio amrywiaeth o offer arbenigol i achub anifeiliaid.





Allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?

Mae Aberhonddu a Phontardawe yn Orsafoedd Tân Ar Alwad, sy’n golygu bod eu Diffoddwyr Tân yn cael eu hysbysu am alwad frys trwy ddyfais alw bersonol, y maen nhw’n ei chario gyda nhw pan fyddant ar ddyletswydd.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Dysgwch fwy am sut i fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yma.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf