30.08.2024

Digwyddiad: Achub Ceffyl yn Nrefach

Am 9.24yb ddydd Iau, Awst 29ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Rhydaman a Chaerfyrddin eu galw i ddigwyddiad yn Nrefach.

Gan Steffan John



Am 9.24yb ddydd Iau, Awst 29ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Rhydaman a Chaerfyrddin eu galw i ddigwyddiad yn Nrefach.

Ymatebodd criwiau i un ceffyl mewn oed, yn mesur tua 16 dyrnfedd o uchder, a oedd wedi disgyn ac wedi bod ar y llawr am nifer o oriau.  Mewn cydweithrediad â pherchennog y ceffyl a’r milfeddyg a oedd hefyd yn bresennol, cynlluniodd criwiau a llwyddo i gael y ceffyl yn ôl ar ei draed gan ddefnyddio tractor.  Yna rhoddwyd y ceffyl yng ngofal y perchennog a’r milfeddyg.

Gadawodd y criwiau am 12.31yp.




Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf