23.04.2024

Digwyddiad: Achub Ci oedd yn Gaeth dan Eiddo

Am 7.11am ddydd Mawrth, Ebrill 23ain, cafodd criw Gorllewin Abertawe eu galw i ddigwyddiad yn Parkmill, Abertawe.

Gan Lily Evans



Am 7.11am ddydd Mawrth, Ebrill 23ain, cafodd criw Gorllewin Abertawe eu galw i ddigwyddiad yn Parkmill, Abertawe.

Cafodd y criw eu galw i achub ci bach oedd yn gaeth o dan annedd domestig o adeiladwaith ansafonol. Am fod y lle yn gyfyng ac oherwydd nad oedd modd dod o hyd i union leoliad y ci, gofynnwyd i Dîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru (ChAT) ddod i gynorthwyo.

Aeth y criwiau ati i dynnu llawer iawn o slabiau patio a phridd yng nghefn yr eiddo er mwyn cael mynediad a dechrau cloddio twnnel o dan gegin yr eiddo. Defnyddiodd Tîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru offer gwrando a chanfod seismig ‘Delsar’ a chamerâu chwilio technegol i nodi union leoliad y ci. Crëwyd ail bwynt mynediad trwy lawr cegin yr eiddo.

Llwyddodd y criwiau i achub Jock, Pŵdl du tair oed, a oedd yn fyw ac yn iach, a chafodd ei aduno â'i berchennog.

ChAT Cymru

Mae Tîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru yn cynnwys aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru - sy’n derbyn hyfforddiant o arbenigedd uchel mewn amgylcheddau Chwilio ac Achub Trefol.






Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf