Am 6.36yh ddydd Mawrth, Medi 10fed, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Hwlffordd ei galw i ddigwyddiad yng Nghoedwig y Llwyn Helyg yn Hwlffordd.
Ymatebodd aelodau’r criw ar ôl i Doby, ci dwy oed, redeg i ffwrdd oddi wrth ei berchennog wrth gerdded yn y goedwig. Cyrhaeddodd Doby ardal gorsiog yn y goedwig ac ar ôl dechrau suddo, llwyddodd i fynd allan yr ochr arall ond ni fyddai’n dod yn ôl ar draws y gors i ddychwelyd i’w berchennog. Ceisiodd perchennog Doby ei achub, ond suddodd yn ddwfn i’r gors ac felly wnaeth dringo yn ôl allan.
Heb unrhyw bwyntiau mynediad eraill ar gael i gyrraedd Doby heblaw croesi’r gors, gwisgodd aelodau’r criw esgidiau pysgota a cherdded trwy’r gors i gyrraedd Doby a’i achub yn ddiogel. Ar ôl aduno Doby gyda’i berchennog, gadawodd y criw am 8.06yh.