22.09.2025

Digwyddiad: Achub Claf o Ddŵr yn Llechryd

Achubodd Diffoddwyr Tân o Orsafoedd Tân Caerfyrddin, Hwlffordd, Aberteifi a Chrymych un claf o gerbyd a oedd yn sownd mewn dŵr llifogydd yn Llechryd ddydd Sul, Medi 21ain.

Gan Steffan John



Am 2.57yp ddydd Sul, Medi 21ain, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Caerfyrddin, Hwlffordd, Aberteifi a Chrymych i ddigwyddiad yn Llechryd.

Ymatebodd y criwiau i un cerbyd modur preifat a oedd yn sownd mewn llifddwr, gydag un claf y tu mewn angen ei achub.  Defnyddiodd y criwiau dîm cerdded drwy ddŵr a sled achub i gyrraedd y claf a’i achub o’i gerbyd.

Gadawodd y criwiau am 4.08yp.

Gyrru Mewn Glaw Trwm

Mae'n hynod o hawdd dod ar draws llifogydd yn annisgwyl, yn enwedig ar ffyrdd anrhestredig a gwledig.  Os byddwch yn digwydd dod ar draws llifogydd annisgwyl a sydyn, yna peidiwch â gyrru ymlaen trwyddynt.  Trowch yn eich ôl a chwiliwch am ffordd amgen.  Gall dŵr fod yn ddyfnach nag y mae'n ymddangos.

Mae rhagor o wybodaeth diogelwch am yrru mewn glaw trwm ar gael yma.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf