Am 2.41yp, ddydd Sadwrn, Hydref 4ydd, galwyd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Canol Abertawe, Glyn-nedd a Phontardawe i ddigwyddiad ger Rhaeadr Henrhyd.
Ymatebodd y criwiau i ddau claf a oedd wedi cwympo wrth gerdded. Achubwyd un claf heb anafiadau, tra bod y llall wedi cwympo tua 40 metr i lawr ceunant. Achubwyd y claf trwy gyfuniad systemau achub llinell ac offer cerdded trwy’r dŵr. Yna cludwyd y claf i’r Ysbyty gan Ambiwlans Awyr.
Roedd angen ymateb aml-asiantaeth i’r digwyddiad hwn, gyda Heddlu Dyfed-Powys, Achub Mynydd, y Tîm Ymateb mewn Ardaloedd Peryglus, y Gwasanaeth Ambiwlans a’r Ambiwlans Awyr hefyd yn bresennol.
Gadawodd criwiau’r Gwasanaeth Tân ac Achub am 7.04yh.