29.01.2025

Digwyddiad: Achub o Ddŵr yn Llechryd

Ddydd Mercher, Ionawr 29ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Caerfyrddin, Hwlffordd, Castellnewydd Emlyn ac Aberteifi eu galw i ddigwyddiad yn Llechryd yn Aberteifi.

Gan Steffan John



Am 11.36yb ddydd Mercher, Ionawr 29ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Caerfyrddin, Hwlffordd, Castellnewydd Emlyn ac Aberteifi eu galw i ddigwyddiad yn Llechryd yn Aberteifi.

Ymatebodd y criwiau i un cerbyd modur a oedd yn sownd mewn llifddwr, gydag un claf y tu mewn i’r cerbyd.  Llwyddodd y criwiau i achub y claf o’r cerbyd a dod â nhw i leoliad sych a diogel.  Gadawodd y criwiau am 1.22yp.

Ers hynny mae'r ffordd wedi'i chau nes i'r llifddwr gilio.



Cyngor Diogelwch Mewn Llifogydd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am atgoffa holl ddefnyddwyr y ffyrdd o’r peryglon o yrru i mewn i ffyrdd sydd dan ddŵr mewn unrhyw gerbyd, gall y dŵr yn aml fod yn ddyfnach ac yn llifo’n gyflymach nag y mae’n ymddangos. 

Dylid cynllunio teithiau ymlaen llaw, gyda ffyrdd amgen yn cael eu nodi os oes angen.  Mae rhagor o wybodaeth am ddiogelwch ar yrru mewn glaw trwm a ffyrdd dan ddŵr ar gael yma.





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf