06.01.2025

Digwyddiad: Achub o Ddŵr yn Y Fenni

Ddydd Llun, Ionawr 6ed, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Crug Hywel ei galw i ddigwyddiad yn Llanwenarth yn Y Fenni. 

Gan Steffan John



Am 8.56yb ddydd Llun, Ionawr 6ed, cafodd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Crug Hywel ei galw i ddigwyddiad yn Llanwenarth yn Y Fenni. 

Gyda chymorth criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ymatebodd y criw i un cerbyd modur preifat oedd yn sownd mewn llifddwr, gyda chleifion y tu mewn i’r cerbyd.  Defnyddiodd y criwiau offer cerdded  trwy ddŵr i achub y cleifion o’r cerbyd.  Gadawodd y criwiau am 9.57yb.





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf