Am 4.30yp ddydd Sadwrn, Tachwedd 23ain, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Caerfyrddin, Aberystwyth, Castellnewydd Emlyn, Llandysul ac Aberteifi eu galw i ddigwyddiad yn Henllan.
Ymatebodd y criwiau, gan gynnwys timau cerdded trwy ddŵr, i ddau glaf ac un ci a oedd yn sownd mewn cae dan ddŵr. Ar ôl sawl ymgais aflwyddiannus i achub eu hun, gwnaed galwad 999 wrth iddi dywyllu. Sefydlodd criwiau system diogelwch a defnyddiwyd sled diogelwch, llinellau taflu a goleuadau i ddod â’r cleifion i ddiogelwch.
Gadawodd y criwiau am 7.17yh.