06.12.2024

Digwyddiad: Achub Person o Lifogydd yn y Drenewydd

Ddydd Gwener, Rhagfyr 6ed, achubodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru un claf o gerbyd oedd yn sownd mewn dŵr llifogydd yn y Drenewydd.

Gan Steffan John



Ddydd Gwener, Rhagfyr 6ed, achubodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru un claf o gerbyd oedd yn sownd mewn dŵr llifogydd.  Cafodd y claf ei achub gan dîm cerdded trwy ddŵr.

Gyda rhybuddion tywydd ar waith ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru dros y penwythnos, mae’r Gwasanaeth yn annog pawb i gymryd gofal ychwanegol wrth deithio yn yr amodau hyn.  Cadwch i ffwrdd o afonydd chwyddedig ac ardaloedd arfordirol a pheidiwch â gyrru na cherdded trwy ddŵr llifogydd.  Yn aml, gall dŵr llifogydd fod yn ddyfnach ac yn llifo’n gyflymach nag y mae’n ymddangos.

Er bod y dŵr yn y llun isod yn ymddangos yn dawel a’n fas, roedd tua 2.5 troedfedd o ddyfnder mewn mannau.

Diogelwch ar y Ffyrdd

Er mwyn sicrhau eich bod yn cadw'n ddiogel, mae'n bwysig paratoi ar gyfer yr heriau sy'n dod i ganlyn tywydd gwlyb a gwyntog.

MWY O WYBODAETH

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf