24.01.2025

Digwyddiad: Adeiladwaith Peryglus yn Johnston

Ddydd Gwener, Ionawr 24ain, cafodd y criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Hwlffordd ei galw i ddigwyddiad ar Heol Vine yn Johnston.

Gan Steffan John



Am 8.28yb ddydd Gwener, Ionawr 24ain, cafodd y criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Hwlffordd ei galw i ddigwyddiad ar Heol Vine yn Johnston.

Ymatebodd aelodau’r criw i deils crib to oedd yn hongian oddi ar eiddo domestig deulawr a thros balmant cyhoeddus.  Caewyd y ffordd yn gyfan gwbl a defnyddiodd y criw beiriant ysgol trofwrdd i dynnu’r teils crib a gwneud y lleoliad yn ddiogel. 

Mae’r palmant a’r ffordd bellach wedi’u hailagor.  Gadawodd y criw am 9.28yb.




Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf