20.06.2024

Digwyddiad: Criw Gorsaf Dân Treforys yn Helpu i Achub Brân

Ddydd Sadwrn, Mehefin 1, galwyd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Treforys i gynorthwyo'r RSPCA i achub brân a oedd yn sownd ar erial adeilad teras.

Gan Steffan John



Mae'r RSPCA wedi ailadrodd eu rhybudd ynghylch y peryglon y mae bagiau plastig a sbwriel yn eu hachosi i fywyd gwyllt, yn dilyn digwyddiad lle cafodd brân ei dal ar erial.

Ddydd Sadwrn, Mehefin 1, galwyd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsaf Dân Treforys i gynorthwyo i achub brân a oedd yn sownd ar erial adeilad teras deulawr. Roedd coes yr aderyn wedi mynd yn sownd mewn bag plastig ar yr erial a defnyddiodd criwiau GTACGC beiriant cyrraedd yn uchel i ryddhau'r aderyn. Yna trosglwyddwyd y frân i Swyddog Achub Anifeiliaid yr RSPCA, Ellie West, i'w hasesu ac i ofalu amdani.

"Roedd y frân yma wirioneddol yn sownd ac yn amlwg mewn trallod," meddai Ellie. "Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Gwasanaeth Tân ac Achub am ddod ac am ddefnyddio eu hoffer arbenigol i gyrraedd yr aderyn ar do adeilad deulawr. Gan ddefnyddio eu platfform cyrraedd yn uchel, llwyddasant i ryddhau'r frân a'i chludo i lawr yn ddiogel. Roedd bag plastig wedi'i lapio o amgylch coes chwith y frân, ac wrth geisio dianc roedd hi wedi mynd hyd yn oed yn fwy sownd. Roedd clwyf ar ei choes chwith, ond diolch byth roedd ei chorff mewn cyflwr da ac roedd yn fywiog er gwaethaf ei phrofiad cas."



Diolch byth, ar ôl cael triniaeth a hylifau, cafodd y frân ei rhyddhau yn ôl i'r gwyllt.

Aeth Ellie yn ei blaen:

"Roedd clwyf y frân wedi gwella'n dda dros nos ac fe hedfanodd yn dda pan roddwyd cynnig ar hynny. Ro’n i wedyn yn gallu ei rhyddhau yn yr un lleoliad. Roedd yn aderyn ifanc oedd wedi gadael y nyth yn ddiweddar, ac roedd y rhieni o gwmpas pan gafodd y frân ei hachub. Pan gafodd ei rhyddhau, daethant ati a hedfanon nhw i ffwrdd gyda'i gilydd, a oedd yn hyfryd i'w weld. Rydyn ni i gyd eisiau gweld bywyd gwyllt yn ffynnu yn ein cymunedau - ond yn anffodus rydyn ni'n gweld llawer o adar yn cael eu dal mewn rhwydi neu’n sownd tu ôl iddyn nhw - a gall sbwriel plastig fod y prif reswm am hyn. Gall adar ddioddef marwolaeth hir a phoenus o ganlyniad i anaf neu newyn os na allant ddianc, felly rydym yn falch iawn bod y frân hon wedi'i rhyddhau o’i chaethiwed yn llwyddiannus. Hoffem ddiolch i'r rhai a ffoniodd i roi gwybod am hyn, ac i'r Gwasanaeth Tân ac Achub am eu caredigrwydd a'u harbenigedd."





Gall gwaredu sbwriel yn gywir a defnyddio llai o blastigau untro fel bagiau siopa helpu i leihau nifer y digwyddiadau o'r math hwn. Os ydych yn canfod anifail sydd angen cymorth, mae gan yr RSPCA fwy o wybodaeth am beth i'w wneud ar eu gwefan.

Dathlodd yr RSPCA eu pen blwydd yn 200 oed yn ddiweddar. I nodi'r pen blwydd arbennig hwn, mae'r elusen lles anifeiliaid eisiau ysbrydoli miliwn o bobl i ymuno â'u mudiad i wella bywydau anifeiliaid, ac un prosiect gwirfoddoli yw RSPCA Wildlife Friends sy'n gwneud gwahaniaeth i fywyd gwyllt Cymru a Lloegr.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf