09.05.2024

Digwyddiad 'Cysylltu Ar Gyfer' yng Ngorsaf Dân y Drenewydd

Ddydd Mercher, Ebrill 24, cynhaliodd Gorsaf Dân y Drenewydd yr ail ddigwyddiad Cysylltu Ar Gyfer’ blynyddol, sy'n rhoi cyfle i sefydliadau lleol gyda'r nod cyffredinol o wella darpariaeth gwasanaethau, lleihau risg, cefnogi iechyd a lles a deall rhai o'r blaenoriaethau ar gyfer rheoleiddwyr.

Gan Rachel Kestin



Ddydd Mercher, Ebrill 24, cynhaliodd Gorsaf Dân y Drenewydd yr ail ddigwyddiad Cysylltu Ar Gyfer’ blynyddol, sy'n rhoi cyfle i sefydliadau lleol gyda'r nod cyffredinol o wella darpariaeth gwasanaethau, lleihau risg, cefnogi iechyd a lles a deall rhai o'r blaenoriaethau ar gyfer rheoleiddwyr.

Daeth 33 o bobl i’r digwyddiad o sefydliadau o bob rhan o Bowys a Cheredigion i ailgadarnhau’r perthnasoedd proffesiynol a grëwyd yn y digwyddiad y llynedd.

Cafodd y digwyddiad eleni ei agor gan Ddirprwy Brif Swyddog Tân ac Achub Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Iwan Cray. Yna, roedd cyflwyniadau gan dimau Diogelwch Cymunedol, Ymateb Gweithredol a Diogelwch Tân Busnesau GTACGC, yn ogystal â throsolwg o'r Cynllun Rheoli Risg Cymunedol newydd a Strategaeth Larymau Tân Diangen newydd y Gwasanaeth a ddaw i rym ar 1 Gorffennaf 2024.

Yn ogystal, cafwyd cyflwyniadau gan Heddlu Dyfed-Powys ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a oedd yn rhoi amlinelliad o'u hymrwymiad i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i'r cymunedau y mae'r holl wasanaethau brys yn eu gwasanaethu.

Dywedodd un o fynychwyr y digwyddiad:

"Dyma'r tro cyntaf i mi fynychu'r digwyddiad hwn ac mae wedi bod yn hynod fuddiol. Roedd yn gyfle perffaith i ymgysylltu â rhanddeiliaid eraill, yn ogystal â chaniatáu i ni rannu ein ffrydiau gwaith presennol a'n cynlluniau lleol i roi sicrwydd ynghylch ein darpariaeth gwasanaethau. Mae'r digwyddiad hefyd wedi fy ngalluogi i greu perthnasoedd gwaith newydd, yn ogystal ag adeiladu ar y rhai sy'n bodoli eisoes. Hoffwn ddiolch i'r tîm am drefnu a hwyluso digwyddiad mor llwyddiannus ac edrychaf ymlaen at yr un nesaf.”



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn falch o allu cyflwyno digwyddiad sy'n rhoi cyfle i ddatblygu perthnasoedd â sefydliadau lleol eraill a gweithio ochr yn ochr â nhw.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf