12.05.2025

Digwyddiad: Diffoddwyr Tân yn Achub Bruce y Tarw yn Aberhonddu

Ddydd Sul, Mai 11eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberhonddu a Phontardawe eu galw i ddigwyddiad yn Llanfihangel Nant Bran yn Aberhonddu.

Gan Steffan John



Am 11.36yb, ddydd Sul, Mai 11eg, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberhonddu a Phontardawe eu galw i ddigwyddiad yn Llanfihangel Nant Bran yn Aberhonddu.

Ymatebodd y criwiau i gynorthwyo Bruce, tarw buches naw oed, yn pwyso tua 800kg, a oedd wedi mynd yn sownd i fyny at ei frest mewn cors.  Cafodd y cerbyd pob tir a'r tryc o Orsaf Dân Aberhonddu, ynghyd â'r Tîm Achub Anifeiliaid o Orsaf Dân Pontardawe, eu hanfon i'r lleoliad.  Cafodd y criwiau eu cynorthwyo gan Filfeddygon Honddu yn ogystal â ffrindiau a chymdogion perchennog Bruce.

Roedd yr achubiad yn un heriol ac fe gymerodd tua dwy awr a hanner i'w gwblhau.  Defnyddiodd y criwiau linellau achub anifeiliaid, slingiau, strapiau a thryweli, ac yn y diwedd cafodd Bruce ei achub yn llwyr tua 5.30yp.  Gadawodd y criwiau am 5.45yp.



Wrth siarad am achub Bruce, dywedodd ei berchennog, Marilyn Jones:

“Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi bod yn rhan o achub Bruce heddiw.  Mae Bruce bellach yn hapus yn bwyta yn ei gae, ar ôl bod am dro hir ers cael ei achub.”







Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf