24.07.2025

Digwyddiad: Diffoddwyr Tân yn Achub Cath o Do yn Abertawe

Fe wnaeth Diffoddwyr Tân o Orsaf Dân Treforys achub cath o do tŷ tri llawr ar ddydd Iau, Gorffennaf 24ain.

Gan Steffan John



Am 9.48yb ddydd Iau, Gorffennaf 24ain, galwyd criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsaf Dân Treforys i ddigwyddiad yng Nghilgant Brynmill yn Abertawe.

Ymatebodd y criw i un gath oedd yn sownd ar do tŷ tri llawr. Defnyddiodd aelodau’r criw declyn ysgol drofwrdd – a danteithion i gathod – i achub y gath a’i dod i ddiogelwch.  Gadawodd y criw am 10.48am.




Erthygl Flaenorol