Am 5.57yp, ddydd Mawrth, Ebrill 1af, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Pontardawe a Dyffryn Aman eu galw i ddigwyddiad yng Nghwmllynfell.
Ymatebodd y criwiau i un ceffyl, yn mesur tua 16 llaw o uchder, a oedd yn sownd mewn tir corsiog. Defnyddiodd y criwiau offer cerdded trwy ddŵr, offer achub anifeiliaid a goleuadau i achub y ceffyl o’r gors. Cafodd y criwiau eu cynorthwyo gan ffermwr lleol a ddaeth â pheiriant turio i helpu achub y ceffyl. Gadawodd y criwiau am 8.17yh.